0

Y Daith ydi Adra

eBook - Stori G*r Ar Y Ffin

Erschienen am 15.05.2021, Auflage: 1/2021
CHF 15,40
(inkl. MwSt.)

Download

E-Book Download
Bibliografische Daten
ISBN/EAN: 9781913640804
Umfang: 212 S., 0.79 MB
E-Book
Format: EPUB
DRM: Digitales Wasserzeichen

Beschreibung

Cawn ei hanes o'i blentyndod yn Bermo i'r cyfnod cythryblus pan oedd yn fyfyriwr israddedig yn Aberystwyth, o ysgoloriaeth a'i galluogodd i fynd i Berkeley yn San Francisco ar yr adeg pan oedd AIDS yn lledaenu ar ras, cyn dychwelyd i Lerpwl ac i ogledd Cymru i weithio fel caplan ac yna ym maes gwaith cymdeithasol ac iechyd rhyw. Mae'n daith a'i harweiniodd i fod yn awdur a ddefnyddiodd ei brofiadau i greu ffuglen a enillodd wobrau, ac a'i hysgogodd i ddod yn ymgyrchydd, anfoddog braidd, dros hawliau LGBT yng Nghymru. Cawn glywed am yr antur o gadw Gwely a Brecwast yn Bermo, gyda'i r, academydd Almaenig, eu priodas ar ôl partneriaeth hir, a'i gyfnod fel Maer Bermo.Ddyddiau'n unig ar ôl y Refferendwm ar Ewrop penderfynodd y ddau werthu'r busnes a symud i'r Almaen. Mae taith John Sam yn parhau.Ar ôl mwy na deng mlynedd ar hugain o fod yn gweinidogaethu fel caplan, yn gweithio ym myd addysg a gweithio ym maes iechyd cyhoeddus mae John Sam Jones bellach wedi lled-ymddeol ac yn byw gyda'i r a'u dau gi defaid Cymreig mewn pentref bach yn yr Almaen, dafliad carreg o'r ffin â'r Iseldiroedd. Sylweddolodd John ei fod yn hoyw pan oedd yn ei arddegau yn y 1970au a dod i ddeall yn fuan y byddai'n byw ei fywyd ar y ffiniau y ffin rhwng gwir a chelwydd, y ffin rhwng cael ei wrthod a chael ei watwar, y ffin rhwng amau'i hun a'i daith i gael ei dderbyn. Yn y diwedd dewisodd gerdded llwybr lle nad oedd ei onestrwydd a'i ddiffuantrwydd bob tro'n cael ei werthfawrogi gan gymdeithas a oedd yn aml yn chwyrn o homophobig. Yn 2001 ef oedd cyd-gadeirydd cyntaf LGB Forum Cymru (a ddaeth yn ddiweddarach yn Stonewall Cymru), corff a sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion LGB.

Autorenportrait

Ar ôl mwy na deng mlynedd ar hugain o fod yn gweinidogaethu fel caplan, yn gweithio ym myd addysg a gweithio ym maes iechyd cyhoeddus mae John Sam Jones bellach wedi lled-ymddeol ac yn byw gyda'i r a'u dau gi defaid Cymreig mewn pentref bach yn yr Almaen, dafliad carreg o'r ffin â'r Iseldiroedd. Sylweddolodd John ei fod yn hoyw pan oedd yn ei arddegau yn y 1970au a dod i ddeall yn fuan y byddai'n byw ei fywyd ar y ffiniau y ffin rhwng gwir a chelwydd, y ffin rhwng cael ei wrthod a chael ei watwar, y ffin rhwng amau'i hun a'i daith i gael ei dderbyn. Yn y diwedd dewisodd gerdded llwybr lle nad oedd ei onestrwydd a'i ddiffuantrwydd bob tro'n cael ei werthfawrogi gan gymdeithas a oedd yn aml yn chwyrn o homophobig. Yn 2001 ef oedd cyd-gadeirydd cyntaf LGB Forum Cymru (a ddaeth yn ddiweddarach yn Stonewall Cymru), corff a sefydlwyd i gynghori Llywodraeth Cymru ar faterion LGB.Astudiodd ysgrifennu creadigol yng Nghaer, a dyfarnwyd ei gasgliad o straeon byrion Welsh Boys Too yn 'Honor Book' yng Ngwobrau Llyfrau Stonewall yr American Library Association. Bu ei ail gasgliad, Fishboys of Vernazza, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn, ac yn dilyn hynny cyhoeddodd ddwy nofel With Angels and Furies a Crawling Through Thorns.

Informationen zu E-Books

Individuelle Erläuterung zu E-Books

Weitere Artikel vom Autor "Jones, John Sam"

Alle Artikel anzeigen